1 Cododd Josua'n fore a chychwynnodd ef a'r holl Israeliaid o Sittim a dod at yr Iorddonen, a gwersyllu yno cyn croesi. 2 Ymhen tridiau aeth y swyddogion drwy'r gwersyll, 3 a gorchymyn i'r bobl, "Pan welwch yr offeiriaid, y Lefiaid, yn codi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, cychwynnwch o'ch lle ac ewch ar ei h�l, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd nid ydych wedi tramwyo'r ffordd hon o'r blaen. 4 Er hynny bydded pellter o tua dwy fil o gufyddau rhyngoch chwi a'r arch; peidiwch � mynd yn nes na hyn." 5 Yna dywedodd Josua wrth y bobl, "Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg." 6 A dywedodd wrth yr offeiriaid, "Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl." Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl. 7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y b�m gyda Moses. 8 Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, 'Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.'" 9 Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, "Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw. 10 Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid: 11 bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen. 12 Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth. 13 Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd �'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y du373?r sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr." 14 Pan gychwynnodd y bobl o'u pebyll i groesi'r Iorddonen, yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod ar flaen y bobl. 15 Yn awr, bydd yr Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau'r cynhaeaf; ond pan ddaeth cludwyr yr arch at yr Iorddonen, a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn cyffwrdd ag ymyl y du373?r, 16 cronnodd y dyfroedd oedd yn llifo i lawr oddi uchod, a chodi'n un pentwr ymhell iawn i ffwrdd yn Adam, y dref sydd gerllaw Sarethan. Darfu'n llwyr am y dyfroedd oedd yn llifo i lawr tua M�r yr Araba, y M�r Marw, a chroesodd yr holl bobl gyferbyn � Jericho. 17 Tra oedd Israel gyfan yn croesi ar dir sych, safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn drefnus ar sychdir yng nghanol yr Iorddonen, hyd nes i'r holl genedl orffen croesi'r afon.