1 Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y m�r, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid. 2 Yr adeg honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Darpara iti gyllyll callestr ac ailddechrau enwaedu ar yr Israeliaid." 3 Parat�dd Josua gyllyll callestr ac enwaedodd ar yr Israeliaid yn Gibeath-araloth. 4 A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft. 5 Yr oedd pawb o'r fyddin a ddaeth allan o'r Aifft wedi eu henwaedu, ond nid enwaedwyd ar neb a anwyd yn yr anialwch ar y daith o'r Aifft. 6 Deugain mlynedd y bu'r Israeliaid yn crwydro'r anialwch, nes bod yr holl genhedlaeth o wu375?r arfog a ddaeth allan o'r Aifft wedi marw am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD; yr oedd yr ARGLWYDD wedi tyngu wrthynt na chaent hwy weld y wlad yr oedd ef wedi ei haddo i'w hynafiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l. 7 Cododd eu meibion yn eu lle, ac arnynt hwy yr enwaedodd Josua; yr oeddent yn ddienwaededig am nad enwaedwyd arnynt ar y daith. 8 Ar �l eu henwaedu, arhosodd yr holl genedl lle'r oeddent yn y gwersyll nes eu hiach�u. 9 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Heddiw yr wyf wedi treiglo gwarth yr Aifft oddi arnoch." Felly gelwir y lle hwnnw'n Gilgal hyd y dydd hwn. 10 Yr oedd yr Israeliaid yn gwersyllu yn Gilgal, a chyda'r hwyr ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, buont yn dathlu'r Pasg yn rhosydd Jericho. 11 Trannoeth y Pasg, bwytasant o gynnyrch y wlad, a pharatoi bara croyw a chrasyd yn ystod y diwrnod hwnnw. 12 Peidiodd y manna drannoeth wedi iddynt fwyta o gynnyrch y wlad, ac ni chafodd yr Israeliaid fanna wedyn, eithr bwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno. 13 Tra oedd Josua yn ymyl Jericho, cododd ei lygaid a gweld dyn yn sefyll o'i flaen �'i gleddyf noeth yn ei law. Aeth Josua ato a gofyn iddo, "Ai gyda ni, ynteu gyda'n gwrthwynebwyr yr wyt ti?" 14 Dywedodd yntau, "Nage; ond deuthum yn awr fel pennaeth llu'r ARGLWYDD." Syrthiodd Josua i'r llawr o'i flaen a moesymgrymu, a gofyn iddo, "Beth sydd gan f'arglwydd i'w ddweud wrth ei was?" 15 Atebodd pennaeth llu'r ARGLWYDD, "Tyn dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle yr wyt yn sefyll arno yn gysegredig." Gwnaeth Josua felly.