1 Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglu375?n �'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid. 2 Anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai ger Beth-afen, i'r dwyrain o Fethel. Dywedodd wrthynt, "Ewch i fyny ac ysb�wch y wlad." Aeth y dynion i fyny ac ysb�o Ai. 3 Yna daethant yn �l at Josua a dweud wrtho, "Peidied y fyddin gyfan � mynd i fyny; os � dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid � llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt." 4 Aeth tua thair mil o'r fyddin i fyny yno, ond ffoesant o flaen dynion Ai. 5 Lladdodd dynion Ai ryw dri dwsin ohonynt trwy eu hymlid o'r porth hyd at Sebarim, a'u lladd ar y llechwedd. Suddodd calon y bobl a throi megis du373?r. 6 Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau. 7 Dywedodd Josua, "Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod �'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen. 8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion? 9 Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?" 10 Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, "Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn? 11 Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain. 12 Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddil�wch y diofryd o'ch plith. 13 Cod, cysegra'r bobl a dywed wrthynt, 'Ymgysegrwch erbyn yfory, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: "Y mae diofryd yn eich plith, Israel; ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion nes ichwi symud y diofryd o'ch plith." 14 Yfory rhaid ichwi ddod gerbron yr ARGLWYDD fesul llwyth; yna daw'r llwyth a ddelir ganddo fesul tylwyth, y tylwyth fesul teulu, a'r teulu fesul un. 15 A phwy bynnag a ddelir gyda'r diofryd, fe'i llosgir ef a'r cwbl a berthyn iddo, am iddo droseddu yn erbyn cyfamod yr ARGLWYDD a gwneud tro ysgeler yn Israel.'" 16 Cododd Josua yn fore drannoeth, a dod �'r Israeliaid gerbron fesul llwyth. Daliwyd llwyth Jwda. 17 Daeth � thylwythau Jwda gerbron, a daliwyd tylwyth y Sarhiaid; yna daeth � thylwyth y Sarhiaid fesul teulu, a daliwyd Sabdi. 18 Pan ddaeth �'i deulu ef gerbron fesul un, daliwyd Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda. 19 Dywedodd Josua wrth Achan, "Fy mab, rho'n awr glod a gogoniant i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dywed imi'n awr beth a wnaethost; paid �'i gelu oddi wrthyf." 20 Atebodd Achan, "Yn wir yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel; dyma a wneuthum: 21 ymysg yr ysbail gwelais fantell hardd o Sinar, dau can sicl o arian, a llafn aur yn pwyso hanner can sicl. Cododd blys arnaf amdanynt, ac fe'u cymerais. Y maent wedi eu cuddio yn y ddaear i mewn yn fy mhabell, gyda'r arian oddi tanodd." 22 Anfonodd Josua negeswyr; ac wedi iddynt redeg at y babell, fe'u gwelsant wedi eu cuddio, a'r arian oddi tanodd. 23 Cymerasant hwy allan o'r babell a dod � hwy at Josua a'r holl Israeliaid, a'u gosod gerbron yr ARGLWYDD. 24 Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor. 25 Dywedodd Josua, "Am i ti ein cythryblu ni, bydd yr ARGLWYDD yn dy gythryblu dithau y dydd hwn." A llabyddiodd Israel gyfan ef � cherrig, a llosgi'r lleill � th�n ar �l eu llabyddio. 26 Codasant drosto garnedd fawr o gerrig sydd yno hyd heddiw; yna peidiodd digofaint yr ARGLWYDD. Dyna pam y gelwir y lle hwnnw'n ddyffryn Achor hyd y dydd hwn.