1 Ar �l Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim. 2 Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir. 3 Ar ei �l cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain. 4 Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw. 5 Pan fu farw Jair, claddwyd ef yn Camon. 6 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac addoli'r Baalim a'r Astaroth, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid; gwrthodasant yr ARGLWYDD a pheidio �'i wasanaethu. 7 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a gwerthodd hwy i law'r Philistiaid a'r Ammoniaid. 8 Ysigodd y rheini'r Israeliaid a'u gormesu y flwyddyn honno; ac am ddeunaw mlynedd buont yn gormesu'r holl Israeliaid y tu hwnt i'r Iorddonen, yn Gilead yng ngwlad yr Amoriaid. 9 Wedyn croesodd yr Ammoniaid dros yr Iorddonen i ryfela yn erbyn Jwda a Benjamin a thylwyth Effraim, a bu'n gyfyng iawn ar Israel. 10 Yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn d'erbyn; yr ydym wedi gadael ein Duw ac addoli'r Baalim." 11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid, "Pan ormeswyd chwi gan yr Eifftiaid, Amoriaid, Ammoniaid, Philistiaid, 12 Sidoniaid, Amaleciaid, a Midianiaid, galwasoch arnaf fi, a gwaredais chwi o'u gafael. 13 Ond yr ydych wedi fy ngadael i a gwasanaethu duwiau eraill, ac am hynny nid wyf am eich gwaredu rhagor. 14 Ewch a galwch ar y duwiau yr ydych wedi eu dewis; bydded iddynt hwy eich gwaredu chwi yn awr eich cyfyngdra." 15 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth yr ARGLWYDD, "Yr ydym wedi pechu; gwna inni beth bynnag a weli'n dda, ond eto gwared ni y tro hwn." 16 Bwriasant y duwiau dieithr allan o'u plith, a gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac ni allai yntau oddef adfyd Israel yn hwy. 17 Pan alwodd yr Ammoniaid eu milwyr ynghyd a gwersyllu yn Gilead, ymgasglodd yr Israeliaid hefyd a gwersyllu yn Mispa. 18 Dywedodd swyddogion byddin Gilead wrth ei gilydd, "Pwy bynnag fydd yn dechrau'r ymladd �'r Ammoniaid, ef fydd yn ben ar holl drigolion Gilead."