1 Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati. 2 Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, "Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn." 3 Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy dd�r a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd �'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn � Hebron. 4 Ar �l hyn, syrthiodd mewn cariad � dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila. 5 Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, "Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian." 6 Dywedodd Delila wrth Samson, "Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?" 7 Dywedodd Samson wrthi, "Petaent yn fy rhwymo � saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned � dyn cyffredin." 8 Daeth arglwyddi'r Philistiaid � saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef � hwy. 9 Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at d�n. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder. 10 Ac meddai Delila wrth Samson, "Dyma ti wedi gwneud ffu373?l ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di." 11 Dywedodd yntau, "Pe rhwyment fi � rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned � dyn cyffredin." 12 Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo � hwy, a dweud, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau. 13 Ac meddai Delila wrth Samson, "Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di." Dywedodd wrthi, "Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau �'r hoelen, yna mi awn cyn wanned � dyn cyffredin." 14 Felly suodd Delila ef i gysgu, a gweodd saith cudyn ei ben i mewn i'r we, a'i thynhau �'r hoelen. Yna dywedodd wrtho, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffr�dd yntau o'i gwsg, a thynnodd yn rhydd yr hoelen, y garfan a'r we. 15 Ac meddai hi wrtho, "Sut y medri di ddweud, 'Rwy'n dy garu', a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr." 16 Ac oherwydd ei bod yn ei flino �'i geiriau, ddydd ar �l dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi yml�dd, 17 fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, "Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd �'m pen, oherwydd b�m yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned � dyn cyffredin." 18 Gwelodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthi, ac anfonodd am arglwyddi'r Philistiaid a dweud, "Dewch ar unwaith; y mae wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthyf." Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati �'r arian yn eu llaw. 19 Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo. 20 Dywedodd, "Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!" Deffr�dd ef o'i gwsg gan feddwl, "Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau." Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno. 21 Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy. 22 Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar �l ei eillio. 23 Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn Samson." 24 A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad, a amlhaodd ein celaneddau." 25 Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, "Galwch Samson i'n difyrru." Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau. 26 Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, "Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt." 27 Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru. 28 Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad." 29 Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall. 30 Yna dywedodd, "Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!" Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd. 31 Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.