Welsh

Judges

2

1 Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, "Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod � chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, 'Ni thorraf fy nghyfamod � chwi byth; 2 peidiwch chwithau � gwneud cyfamod � thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.' Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn? 3 Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi." 4 Pan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth yr holl Israeliaid, torrodd y bobl allan i wylo'n uchel. 5 Am hynny enwyd y lle hwnnw Bochim; ac offrymasant yno aberth i'r ARGLWYDD. 6 Gollyngodd Josua y bobl ac aeth pob un o'r Israeliaid i'w etifeddiaeth i gymryd meddiant o'r wlad. 7 Addolodd y bobl yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid oedd wedi goroesi Josua ac wedi gweld yr holl waith mawr a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel. 8 Bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed, 9 a chladdwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-heres ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas. 10 Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu h�l, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel. 11 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim, 12 gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar �l duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD. 13 Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth. 14 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion. 15 I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt. 16 Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr. 17 Eto nid oeddent yn gwrando hyd yn oed ar eu barnwyr, ond yn hytrach yn puteinio ar �l duwiau estron ac yn ymgrymu iddynt, gan gefnu'n fuan ar y ffordd a gerddodd eu hynafiaid mewn ufudd-dod i orchmynion yr ARGLWYDD; ni wnaent hwy felly. 18 Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr. 19 Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn �l yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar �l duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig. 20 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd, "Am i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w hynafiaid, heb wrando ar fy llais, 21 nid wyf finnau am ddisodli o'u blaen yr un o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw." 22 Gadawyd hwy i brofi'r Israeliaid, i weld a fyddent yn cadw ffordd yr ARGLWYDD ai peidio, ac yn rhodio ynddi fel y gwnaeth eu hynafiaid. 23 Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn heb eu disodli ar unwaith, na'u rhoi yn llaw Josua.