1 Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni; edrych a gw�l ein gwarth. 2 Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid. 3 Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau, a'n mamau fel gweddwon. 4 Y mae'n rhaid inni dalu am y du373?r a yfwn, a phrynu'r coed a gawn. 5 Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir; yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys. 6 Gwnaethom gytundeb �'r Aifft, ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd. 7 Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach; ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau. 8 Caethweision sy'n llywodraethu arnom, ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael. 9 Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd, oherwydd y cleddyf yn yr anialwch. 10 Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn. 11 Treisir gwragedd yn Seion, a merched ifainc yn ninasoedd Jwda. 12 Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo, ac ni pherchir yr henuriaid. 13 Y mae'r dynion ifainc yn llafurio �'r maen melin, a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed. 14 Gadawodd yr henuriaid y porth, a'r gwu375?r ifainc eu cerddoriaeth. 15 Diflannodd llawenydd o'n calonnau, a throdd ein dawnsio yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi ar ein pen; gwae ni, oherwydd pechasom. 17 Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol, ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid: 18 am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch, a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth. 19 Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth. 20 Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd, ac wedi'n gwrthod am amser mor faith? 21 ARGLWYDD, tyn ni'n �l atat, ac fe ddychwelwn; adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu, 22 os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr, ac yn ddig iawn wrthym.