1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud, 2 "Dywedwch wrth bobl Israel, 'Pan fydd gan unrhyw un ddiferlif yn rhedeg o'i gorff, y mae'n aflan. 3 Dyma fydd y gyfraith ynglu375?n �'i aflendid o achos diferlif. Pa un bynnag a yw'n parhau i redeg o'i gorff ynteu a yw wedi ei atal, y mae'n aflendid. 4 "'Y mae unrhyw wely y bu rhywun � diferlif yn gorwedd arno yn aflan, ac unrhyw beth y bu'n eistedd arno yn aflan. 5 Y mae unrhyw un a gyffyrddodd �'i wely i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 6 Y mae'r sawl sy'n eistedd ar unrhyw beth yr eisteddodd y sawl sydd � diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 7 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd � chorff y sawl sydd � diferlif arno i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 8 Os bydd rhywun � diferlif arno yn poeri ar unrhyw un gl�n, y mae hwnnw i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 9 Y mae unrhyw beth y bu'n eistedd arno wrth farchogaeth yn aflan, 10 a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd ag un o'r pethau oedd dano yn aflan hyd yr hwyr; y mae unrhyw un sy'n eu codi i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 11 Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y sawl sydd � diferlif ag ef, heb iddo olchi ei ddwylo mewn du373?r, i olchi ei ddillad, ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 12 Y mae llestr pridd y cyffyrddodd y dyn � diferlif ag ef i'w ddryllio, ac unrhyw declyn pren i'w olchi � du373?r. 13 "'Pan fydd rhywun yn cael ei lanhau o'i ddiferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod ar gyfer ei lanhau; y mae i olchi ei ddillad, ac ymolchi � du373?r croyw, a bydd yn l�n. 14 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, a'u rhoi i'r offeiriad. 15 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros y sawl oedd � diferlif. 16 "'Pan fydd dyn yn gollwng ei had, y mae i olchi ei holl gorff � du373?r, a bod yn aflan hyd yr hwyr. 17 Y mae unrhyw ddilledyn neu ddeunydd lledr yr aeth yr had arno i'w olchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 18 Pan fydd dyn yn gorwedd gyda gwraig ac yn gollwng had, y maent i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 19 "'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed, sef misglwyf rheolaidd ei chorff, y mae'n amhur am saith diwrnod, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd � hi yn aflan hyd yr hwyr. 20 Y mae unrhyw beth y mae'n gorwedd arno yn ystod ei misglwyf yn aflan, a hefyd unrhyw beth y mae'n eistedd arno. 21 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd �'i gwely i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 22 Y mae unrhyw un sy'n cyffwrdd �'r hyn yr eistedd y wraig arno i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr; 23 boed yn wely neu'n unrhyw beth y mae'n eistedd arno, pan fydd unrhyw un yn ei gyffwrdd, bydd yn aflan hyd yr hwyr. 24 Os bydd dyn yn gorwedd gyda hi, a'i misglwyf yn cyffwrdd ag ef, y mae yntau'n aflan am saith diwrnod, ac y mae unrhyw wely y gorwedd arno yn aflan. 25 "'Pan fydd gan wraig ddiferlif gwaed am lawer o ddyddiau heblaw ar adeg ei misglwyf, neu pan fydd y diferlif yn parhau ar �l ei misglwyf, bydd yn aflan cyhyd ag y pery'r diferlif, fel ar adeg ei misglwyf. 26 Y mae unrhyw wely y mae'n gorwedd arno tra pery ei diferlif yn aflan, fel y mae ei gwely yn ystod ei misglwyf, ac y mae unrhyw beth y mae'n eistedd arno yn aflan, fel y mae yn ystod ei misglwyf. 27 Y mae unrhyw un sy'n eu cyffwrdd yn aflan, ac y mae i olchi ei ddillad, i ymolchi � du373?r a bod yn aflan hyd yr hwyr. 28 "'Pan fydd yn cael ei glanhau o'i diferlif, y mae i gyfrif saith diwrnod, ac ar �l hynny bydd yn l�n. 29 Ar yr wythfed dydd y mae i gymryd dwy durtur neu ddau gyw colomen, a dod � hwy at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod. 30 Bydd yr offeiriad yn offrymu'r naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ac yn gwneud cymod drosti o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd amhuredd ei diferlif. 31 "'Yr ydych i gadw pobl Israel oddi wrth eu haflendid, rhag iddynt farw yn eu haflendid am iddynt halogi fy nhabernacl sydd yn eu mysg.'" 32 Dyma'r gyfraith ynglu375?n � diferlif, y dyn sy'n dod yn aflan trwy ollwng ei had, 33 a'r wraig sy'n dioddef o'i misglwyf, sef dyn neu wraig � diferlif, a hefyd dyn sy'n gorwedd gyda gwraig sy'n aflan.