1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 3 Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd � chwi. Peidiwch � dilyn eu harferion. 4 Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. 5 Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD. 6 "'Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD. 7 "'Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol �'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi. 8 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad. 9 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo. 10 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu. 11 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi. 12 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad. 13 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam. 14 "'Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti. 15 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi. 16 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd. 17 "'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig ac �'i merch, nac ychwaith � merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd. 18 "'Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu � hi, na chael cyfathrach � hi tra bo dy wraig yn fyw. 19 "'Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol � hi yn ystod aflendid ei misglwyf. 20 "'Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi. 21 "'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD. 22 "'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra. 23 "'Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni. 24 "'Peidiwch �'ch halogi eich hunain �'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain. 25 Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion. 26 Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch � gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych; 27 oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir. 28 Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi. 29 Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl. 30 Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch � dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"