Welsh

Leviticus

4

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 2 "Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd unrhyw un yn pechu'n anfwriadol yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud: 3 "'Os yr offeiriad eneiniog fydd yn pechu ac yn dwyn euogrwydd ar y bobl, dylai ddod � bustach ifanc di-nam i'r ARGLWYDD yn aberth dros y pechod a wnaeth. 4 Y mae i ddod �'r bustach at ddrws pabell y cyfarfod o flaen yr ARGLWYDD, a gosod ei law ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD. 5 Bydd yr offeiriad eneiniog yn cymryd o waed y bustach ac yn dod ag ef i babell y cyfarfod; 6 yna bydd yr offeiriad yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen llen y cysegr. 7 Bydd yr offeiriad hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth peraidd, sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt gweddill gwaed y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8 Y mae i dynnu'r holl fraster oddi ar fustach yr aberth dros bechod, sef y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd, 9 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau, 10 yn union fel y tynnir ef ymaith oddi ar fustach yr heddoffrwm; a bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar allor y poethoffrwm. 11 Ond am groen y bustach a'i holl gnawd, ei ben, ei goesau, ei ymysgaroedd a'i weddillion, 12 sef y cyfan o'r bustach, bydd yn mynd � hwy y tu allan i'r gwersyll i le dihalog, lle gellir tywallt y lludw, ac yn eu llosgi ar d�n coed, lle tywelltir y lludw. 13 "'Os holl gymuned Israel fydd yn pechu'n anfwriadol, a hynny'n guddiedig o olwg y gynulleidfa, a hwythau'n gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn �l gorchmynion yr ARGLWYDD, yna byddant yn euog. 14 Pan fyddant yn sylweddoli'r pechod a wnaethant, dylai'r gynulleidfa ddod � bustach ifanc yn aberth dros bechod a'i gyflwyno o flaen pabell y cyfarfod. 15 Y mae henuriaid y gymuned i osod eu dwylo ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD; 16 yna bydd yr offeiriad eneiniog yn mynd � pheth o waed y bustach i babell y cyfarfod, 17 yn trochi ei fys yn y gwaed ac yn ei daenellu saith gwaith gerbron yr ARGLWYDD, o flaen y llen. 18 Bydd hefyd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod, a bydd yn tywallt y gweddill ohono wrth droed allor y poethoffrwm sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 19 Bydd yn tynnu'r holl fraster oddi ar y bustach ac yn ei losgi ar yr allor; 20 bydd yn gwneud i'r bustach hwn yn union fel y gwnaeth i fustach yr aberth dros bechod. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drostynt, ac fe faddeuir iddynt. 21 Yna bydd yn mynd �'r bustach y tu allan i'r gwersyll, ac yn ei losgi fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma fydd yr aberth dros bechod y gynulleidfa. 22 "'Os arweinydd fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn �l gorchmynion yr ARGLWYDD ei Dduw, yna bydd yn euog. 23 Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod � rhodd o fwch gafr ifanc di-nam. 24 Y mae i osod ei law ar ben y bwch a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; dyma fydd yr aberth dros bechod. 25 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed allor y poethoffrwm. 26 Bydd yn llosgi holl fraster y bwch ar yr allor, fel y llosgodd fraster yr heddoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod dros bechod yr arweinydd, ac fe faddeuir iddo. 27 "'Os un o'r bobl gyffredin fydd yn pechu'n anfwriadol, ac yn gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn �l gorchmynion yr ARGLWYDD, yna bydd yn euog. 28 Pan wneir iddo sylweddoli'r pechod a wnaeth, dylai ddod � rhodd o fyn gafr, benyw ddi-nam, yn aberth dros y pechod a wnaeth. 29 Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn yr un lle �'r poethoffrwm. 30 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor. 31 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, ac fe faddeuir iddo. 32 "'Os bydd rhywun yn dod ag oen yn aberth dros bechod, dylai ddod ag oen benyw ddi-nam. 33 Y mae i osod ei law ar ben yr aberth dros bechod a'i ladd yn aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 34 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr aberth dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor y poethoffrwm, ac yn tywallt y gweddill wrth droed yr allor. 35 Bydd yn tynnu ymaith yr holl fraster, fel y tynnir y braster oddi ar oen yr heddoffrwm, a bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar ben yr offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto am y pechod a wnaeth, ac fe faddeuir iddo.