Welsh

Luke

10

1 Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. 2 Dywedodd wrthynt, "Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. 3 Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel u373?yn i blith bleiddiaid. 4 Peidiwch � chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch � chyfarch neb ar y ffordd. 5 Pa du375? bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, 'Tangnefedd i'r teulu hwn.' 6 Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. 7 Arhoswch yn y tu375? hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch � symud o du375? i du375?. 8 Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. 9 Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, 'Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.' 10 Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch, 11 'Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.' 12 Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno. 13 "Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. 14 Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi. 15 A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.' 16 Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i." 17 Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, "Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di." 18 Meddai wrthynt, "Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef. 19 Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim. 20 Eto, peidiwch � llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd." 21 Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Gl�n, ac meddai, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di. 22 Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni u373?yr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt." 23 Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, "Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld. 24 Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant." 25 Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, "Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?" 26 Meddai ef wrtho, "Beth sy'n ysgrifenedig yn y Gyfraith? Beth a ddarlleni di yno?" 27 Atebodd yntau, "'C�r yr Arglwydd dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid ac �'th holl nerth ac �'th holl feddwl, a ch�r dy gymydog fel ti dy hun.'" 28 Meddai ef wrtho, "Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi." 29 Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, "A phwy yw fy nghymydog?" 30 Atebodd Iesu, "Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner-marw. 31 Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall. 32 Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall. 33 Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. 34 Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano. 35 Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, 'Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn �l iti pan ddychwelaf.' 36 Prun o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?" 37 Meddai ef, "Yr un a gymerodd drugaredd arno." Ac meddai Iesu wrtho, "Dos, a gwna dithau yr un modd." 38 Pan oeddent ar daith, aeth Iesu i mewn i bentref, a chroesawyd ef i'w chartref gan wraig o'r enw Martha. 39 Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air. 40 Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, "Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo." 41 Atebodd yr Arglwydd hi, "Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, 42 ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni."