1 Unwaith pan oedd y dyrfa'n gwasgu ato ac yn gwrando ar air Duw, ac ef ei hun yn sefyll ar lan Llyn Genesaret, 2 gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau. 3 Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch. 4 Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, "Dos allan i'r du373?r dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa." 5 Atebodd Simon, "Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau." 6 Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron � rhwygo. 7 Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo. 8 Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, "Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd." 9 Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal; 10 a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, "Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di." 11 Yna daethant �'r cychod yn �l i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef. 12 Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau." 13 Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith. 14 Gorchmynnodd Iesu iddo beidio � dweud wrth neb: "Dos ymaith," meddai, "a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus." 15 Ond yr oedd y s�n amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiach�u oddi wrth eu clefydau. 16 Ond byddai ef yn encilio i'r mannau unig ac yn gwedd�o. 17 Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iach�u. 18 A dyma wu375?r yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu. 19 Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd �'i wely, i'r canol o flaen Iesu. 20 Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, "Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti." 21 A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, "Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?" 22 Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain? 23 Prun sydd hawsaf, ai dweud, 'Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti', ai ynteu dweud, 'Cod a cherdda'? 24 Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau" � meddai wrth y claf, "Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref." 25 Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gu373?ydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw. 26 Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, "Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw." 27 Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, "Canlyn fi." 28 A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn. 29 Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei du375?; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy. 30 Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, "Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?" 31 Atebodd Iesu hwy, "Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; 32 i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod." 33 Ond meddent hwythau wrtho, "Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gwedd�au, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di." 34 Meddai Iesu wrthynt, "A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? 35 Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt; yna fe ymprydiant yn y dyddiau hynny." 36 Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: "Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen. 37 Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn. 38 I grwyn newydd y mae tywallt gwin newydd. 39 Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, 'Yr hen sydd dda.'"