Welsh

Malachi

4

1 "Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "heb adael iddynt na gwreiddyn na changen. 2 Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder � meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng. 3 Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf," medd ARGLWYDD y Lluoedd. 4 "Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan. 5 "Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD. 6 Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear � difodiant."