Welsh

Mark

3

1 Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. 2 Ac yr oeddent �'u llygaid arno i weld a fyddai'n iach�u'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. 3 A dywedodd wrth y dyn �'r llaw ddiffrwyth, "Saf yn y canol." 4 Yna dywedodd wrthynt, "A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?" Yr oeddent yn fud. 5 Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. 6 Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn �'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd. 7 Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y m�r, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea. 8 Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud. 9 A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno. 10 Oherwydd yr oedd wedi iach�u llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef. 11 Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, "Ti yw Mab Duw." 12 A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio �'i wneud yn hysbys. 13 Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. 14 Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu 15 ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid. 16 Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr; 17 yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, "Meibion y Daran"; 18 ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot, 19 a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef. 20 Daeth i'r tu375?; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed. 21 A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, "Y mae wedi colli arno'i hun." 22 A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, "Y mae Beelsebwl ynddo", a, "Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid." 23 Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: "Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24 Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. 25 Ac os bydd tu375? yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tu375? hwnnw sefyll. 26 Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. 27 Eithr ni all neb fynd i mewn i du375?'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i du375? ef. 28 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant; 29 ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Gl�n, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol." 30 Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, "Y mae ysbryd aflan ynddo." 31 A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw. 32 Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, "Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio." 33 Atebodd hwy, "Pwy yw fy mam i a'm brodyr?" 34 A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, "Dyma fy mam a'm brodyr i. 35 Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam."