1 "Y pryd hwnnw bydd teyrnas nefoedd yn debyg i ddeg o enethod a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod �'r priodfab. 2 Yr oedd pump ohonynt yn ff�l a phump yn gall. 3 Cymerodd y rhai ff�l eu lampau ond heb gymryd olew gyda hwy, 4 ond cymerodd y rhai call, gyda'u lampau, olew mewn llestri. 5 Gan fod y priodfab yn hwyr yn dod aethant i gyd i hepian a chysgu. 6 Ac ar ganol nos daeth gwaedd: 'Dyma'r priodfab, ewch allan i'w gyfarfod.' 7 Yna cododd y genethod hynny i gyd a pharatoi eu lampau. 8 Dywedodd y rhai ff�l wrth y rhai call, 'Rhowch i ni beth o'ch olew, oherwydd y mae'n lampau ni yn diffodd.' 9 Atebodd y rhai call, 'Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.' 10 A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws. 11 Yn ddiweddarach dyma'r genethod eraill yn dod ac yn dweud, 'Syr, syr, agor y drws i ni.' 12 Atebodd yntau, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, nid wyf yn eich adnabod.' 13 Byddwch wyliadwrus gan hynny, oherwydd ni wyddoch na'r dydd na'r awr. 14 "Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. 15 I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn �l ei allu, ac fe aeth oddi cartref. 16 Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu � hwy, ac fe enillodd atynt bump arall. 17 Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt. 18 Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. 19 Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn �l ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy. 20 Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. 'Meistr,' meddai, 'rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.' 21 'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,' meddai ei feistr wrtho, 'buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.' 22 Yna daeth yr un �'r ddwy god, a dywedodd, 'Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.' 23 Meddai ei feistr wrtho, 'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.' 24 Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, 'Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. 25 Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn �l.' 26 Atebodd ei feistr ef, 'Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. 27 Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i'w hawlio. 28 Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i'r un a chanddo ddeg cod. 29 Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo. 30 A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.' 31 "Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. 32 Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, 33 ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. 34 Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, 'Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd. 35 Oherwydd b�m yn newynog a rhoesoch fwyd imi, b�m yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, b�m yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; 36 b�m yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, b�m yn glaf ac ymwelsoch � mi, b�m yng ngharchar a daethoch ataf.' 37 Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti? 38 A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat? 39 Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld � thi?' 40 A bydd y Brenin yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.' 41 "Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, 'Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r t�n tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion. 42 B�m yn newynog ac ni roesoch fwyd imi, b�m yn sychedig ac ni roesoch ddiod imi; 43 b�m yn ddieithr ac ni chymerasoch fi i'ch cartref, yn noeth ac ni roesoch ddillad amdanaf, yn glaf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch � mi.' 44 Yna atebant hwythau: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?' 45 A bydd ef yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio �'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.' 46 Ac fe �'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol."