1 Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth. 2 Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw. 3 Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth �'r deg darn arian ar hugain yn �l at y prif offeiriaid a'r henuriaid. 4 Dywedodd, "Pechais trwy fradychu dyn dieuog." "Beth yw hynny i ni?" meddent hwy, "rhyngot ti a hynny." 5 A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun. 6 Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, "Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw." 7 Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd �'r arian, fel mynwent i ddieithriaid. 8 Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed. 9 Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: "Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno, 10 a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi." 11 Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd Iesu, "Ti sy'n dweud hynny." 12 A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. 13 Yna meddai Pilat wrtho, "Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?" 14 Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw. 15 Ar yr u373?yl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. 16 A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. 17 Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, "Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?" 18 Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. 19 A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, "Paid � chael dim i'w wneud �'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef." 20 Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. 21 Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, "Prun o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?" 22 "Barabbas," meddent hwy. "Beth, ynteu, a wnaf � Iesu a elwir y Meseia?" gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, "Croeshoelier ef." 23 "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelier ef." 24 Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddu373?r, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, "Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol." 25 Ac atebodd yr holl bobl, "Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant." 26 Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar �l ei fflangellu, i'w groeshoelio. 27 Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. 28 Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; 29 plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!" 30 Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. 31 Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef �'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio. 32 Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. 33 Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, "Lle Penglog", 34 ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu � bustl, ond ar �l iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. 35 Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren, 36 ac eisteddasant yno i'w wylio. 37 Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: "Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon." 38 Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith. 39 Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau 40 a dweud, "Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes." 41 A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd �'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud, 42 "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo. 43 Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw �'i fryd arno, oherwydd dywedodd, 'Mab Duw ydwyf.'" 44 Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio. 45 O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. 46 A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu � llef uchel, "Eli, Eli, lema sabachthani", hynny yw, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?" 47 O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, "Y mae hwn yn galw ar Elias." 48 Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi � gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. 49 Ond yr oedd y lleill yn dweud, "Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub." 50 Gwaeddodd Iesu drachefn � llef uchel, a bu farw. 51 A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; 52 agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. 53 Ac ar �l atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. 54 Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, "Yn wir, Mab Duw oedd hwn." 55 Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno; 56 yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus. 57 Pan aeth yn hwyr, daeth dyn cyfoethog o Arimathea o'r enw Joseff, a oedd yntau wedi dod yn ddisgybl i Iesu. 58 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu; yna gorchmynnodd Pilat ei roi iddo. 59 Cymerodd Joseff y corff a'i amdoi mewn lliain gl�n, 60 a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith. 61 Ac yr oedd Mair Magdalen a'r Fair arall yno yn eistedd gyferbyn �'r bedd. 62 Trannoeth, y dydd ar �l y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat 63 a dweud, "Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, 'Ar �l tridiau fe'm cyfodir.' 64 Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw', ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf." 65 Dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch." 66 Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.