Welsh

Matthew

3

1 Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu'r genadwri hon yn anialwch Jwdea: 2 "Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos." 3 Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: "Llais un yn galw yn yr anialwch, 'Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.'" 4 Yr oedd dillad Ioan o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a m�l gwyllt. 5 Yr oedd trigolion Jerwsalem a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, 6 yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 7 A phan welodd Ioan lawer o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i'w bedyddio ganddo, dywedodd wrthynt: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? 8 Dygwch ffrwyth gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. 9 A pheidiwch � meddwl dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd 'rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn. 10 Ac y mae'r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r t�n. 11 Yr wyf fi yn eich bedyddio � du373?r i edifeirwch; ond y mae'r hwn sydd yn dod ar f'�l i yn gryfach na mi, un nad wyf fi'n deilwng i gario'i sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio �'r Ysbryd Gl�n ac � th�n. 12 Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, a bydd yn nithio'n l�n yr hyn a ddyrnwyd, ac yn casglu ei rawn i'r ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw � th�n anniffoddadwy." 13 Yna daeth Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan i'w fedyddio ganddo. 14 Ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud, "Myfi sydd ag angen fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti yn dod ataf fi?" 15 Meddai Iesu wrtho, "Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn." Yna gadodd Ioan iddo ddod. 16 Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r du373?r, dyma'r nefoedd yn agor iddo, a gwelodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. 17 A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu."