Welsh

Micah

5

1 "Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog; y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn; trewir barnwr Israel ar ei foch � ffon." 2 Ond ti, Bethlehem Effrata, sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a'i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. 3 Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog, ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel at eu tylwyth. 4 Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD, ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear; 5 ac yna bydd heddwch. Pan ddaw Asyria i'n gwlad, a cherdded hyd ein tir, codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid ac wyth o arweinwyr pobl. 6 A bugeiliant Asyria �'r cleddyf, a thir Nimrod �'r cleddyf noeth; fe'n gwaredant oddi wrth Asyria pan ddaw i'n gwlad a sarnu'n terfynau. 7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer, fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, fel cawodydd ar laswellt, nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn, nac yn aros am feibion dynion. 8 A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd, ac yng nghanol pobloedd lawer, fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig, fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid, sydd, wrth fynd heibio, yn mathru ac yn malurio, heb neb i waredu. 9 Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr, a thorrir ymaith dy holl elynion. 10 "Yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "distrywiaf dy feirch o'ch plith, a dinistriaf dy gerbydau. 11 Distrywiaf ddinasoedd dy wlad, a mathraf dy holl geyrydd. 12 Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid. 13 Distrywiaf dy gerfddelwau a'th golofnau o'ch mysg, a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun. 14 Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith, a dinistriaf dy ddinasoedd. 15 Mewn llid a digofaint fe ddialaf ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd."