1 Gwae'r ddinas waedlyd, sy'n dwyll i gyd, yn llawn anrhaith a heb derfyn ar ysbail! 2 Clec y chwip, trwst olwynion, meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian, 3 marchogion yn ymosod, cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio. Llu o glwyfedigion, pentyrrau o gyrff, meirwon dirifedi � baglant dros y cyrff. 4 Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain, y deg ei phryd, meistres swynion, a dwyllodd genhedloedd �'i phuteindra, a phobloedd �'i swynion. 5 "Wele fi yn dy erbyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Codaf odre dy wisg at dy wyneb, a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd, a'th warth i'r teyrnasoedd. 6 Taflaf fudreddi drosot, gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe. 7 Yna bydd pob un a'th w�l yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud, 'Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla � hi?' O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?" 8 A wyt yn well na Thebes, sydd ar lannau'r Neil, gyda du373?r o'i hamgylch, y m�r yn fur, a'r lli yn wrthglawdd iddi? 9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd; Put a Libya oedd ei chymorth. 10 Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo; drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol; bwriwyd coelbren am ei huchelwyr, a rhwymwyd ei mawrion � chadwynau. 11 Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig, ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn. 12 Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigys gyda'u ffigys cynnar aeddfed; pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr. 13 Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol, y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion, a th�n wedi ysu eu barrau. 14 Tyn ddu373?r ar gyfer gwarchae, cryfha dy amddiffynfeydd; dos at y clai, sathra'r pridd, moldia briddfeini. 15 Er hynny, cei dy ddifa gan d�n, fe'th dorrir ymaith �'r cleddyf, ac fe'th ysir fel gan locust. Lluosoga fel y locust, lluosoga fel y sbonciwr, haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith. 16 Y mae dy farsiand�wyr yn lluosocach na s�r y nefoedd, 17 dy dywysogion fel locustiaid, dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr � ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer, ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith, ac ni u373?yr neb ble maent. 18 Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria, a'th arweinwyr yn gorffwyso; gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd, heb neb i'w casglu. 19 Ni ellir lliniaru dy glwyf; y mae dy archoll yn ddwfn. Bydd pob un a glyw'r newydd amdanat yn curo'i ddwylo o'th blegid. A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?