Welsh

Nehemiah

11

1 Daeth arweinwyr y bobl i fyw yn Jerwsalem, ond bwriodd y gweddill o'r bobl goelbren i ddod ag un o bob deg i fyw yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a'r naw arall yn y trefi. 2 Bendithiodd y bobl y rhai a aeth o'u gwirfodd i fyw yn Jerwsalem. 3 Dyma benaethiaid y dalaith, oedd yn byw yn Jerwsalem. Yn nhrefi Jwda yr oedd yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon yn byw, pob un yn ei diriogaeth ei hun. 4 Dyma'r rhai o lwyth Jwda a'r rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw yn Jerwsalem: o lwyth Jwda, Athaia fab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel o deulu Peres; 5 a Maaseia fab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni. 6 Yr oedd teulu cyfan Peres, oedd yn byw yn Jerwsalem, yn bedwar cant chwe deg ac wyth o ddynion cyfrifol. 7 Y rhain oedd o lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Eseia, 8 a'i frodyr, gwu375?r grymus, naw cant dau ddeg ac wyth. 9 Joel fab Sichri oedd yn oruchwyliwr arnynt, a Jwda fab Senua oedd dirprwy arolygwr y ddinas. 10 O'r offeiriaid: Jedaia fab Joiarib (hynny yw, Jachin), 11 Seraia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tu375? Dduw, 12 a nifer eu brodyr oedd yn gyfrifol am waith y deml oedd wyth gant dau ddeg a dau; ac Adaia fab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia, 13 a'i frodyr, pennau-teuluoedd, dau gant pedwar deg a dau; ac Amasai, fab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer, 14 a'i frodyr, dynion cyfrifol, cant dau ddeg ac wyth, a Sabdiel fab Haggedolim oedd yn oruchwyliwr arnynt. 15 Ac o'r Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni; 16 a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i du375? Dduw; 17 a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gwedd�au, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun. 18 Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar. 19 Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau. 20 Ac yr oedd y gweddill o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun. 21 Ond yr oedd gweision y deml yn byw ar Offel yng ngofal Siha a Gispa. 22 Goruchwyliwr y Lefiaid yn Jerwsalem, i arolygu gwaith tu375? Dduw, oedd Ussi fab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Meica, o deulu Asaff y cantorion. 23 Oherwydd yr oedd gorchymyn brenhinol ynglu375?n � hwy, fod gan y cantorion ddyletswyddau penodol bob dydd. 24 Ac yr oedd Pethaheia fab Mesesabeel o deulu Sera fab Jwda yn cynghori'r brenin ar unrhyw fater yn ymwneud �'r bobl. 25 Ynglu375?n �'r pentrefi yn y wlad: aeth rhai o lwyth Jwda i fyw yng Ciriath-arba a'i phentrefi, yn Dibon a'i phentrefi, yn Jecabseel a'i phentrefi; 26 yn Jesua, yn Molada, yn Beth-pelet, 27 yn Hasar-sual, yn Beerseba a'i phentrefi; 28 yn Siclag, yn Mechona a'i phentrefi, 29 yn En-rimmon, yn Sora, yn Jarmuth, 30 Sanoa, Adulam a'u pentrefi; yn Lachis a'i meysydd, yn Aseca a'i phentrefi. Yr oeddent yn gwladychu o Beerseba i ddyffryn Hinnom. 31 Rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw o Geba ymlaen, yn Michmas, Aia, Bethel a'i phentrefi, 32 Anathoth, Nob, Ananeia, 33 Hasor, Rama, Gittaim, 34 Hadid, Seboim, Nebalat, 35 Lod, ac Ono, dyffryn y crefftwyr. 36 Ac yr oedd rhai o'r Lefiaid yn perthyn i Jwda a rhai i Benjamin.