Welsh

Nehemiah

7

1 Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi, 2 rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif. 3 A dywedais wrthynt, "Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei du375? ei hun." 4 Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi. 5 Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo: 6 Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn �l i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun. 7 Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana. 8 Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau; 9 teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau; 10 teulu Ara, chwe chant pum deg a dau; 11 teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth; 12 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; 13 teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump; 14 teulu Saccai, saith gant chwe deg; 15 teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth; 16 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth; 17 teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau; 18 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith; 19 teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith; 20 teulu Adin, chwe chant pum deg a phump; 21 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth; 22 teulu Hasum, tri chant dau ddeg ac wyth; 23 teulu Besai, tri chant dau ddeg a phedwar; 24 teulu Hariff, cant a deuddeg; 25 teulu Gibeon, naw deg a phump. 26 Gwu375?r Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth; 27 gwu375?r Anathoth, cant dau ddeg ac wyth; 28 gwu375?r Beth-asmafeth, pedwar deg a dau; 29 gwu375?r Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri; 30 gwu375?r Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un; 31 gwu375?r Michmas, cant dau ddeg a dau; 32 gwu375?r Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri; 33 gwu375?r y Nebo arall, pum deg a dau. 34 Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar; 35 teulu Harim, tri chant dau ddeg; 36 teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump; 37 teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un; 38 teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg. 39 Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri; 40 teulu Immer, mil pum deg a dau; 41 teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith; 42 teulu Harim, mil un deg a saith. 43 Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar. 44 Y cantorion: teulu Asaff, cant pedwar deg ac wyth. 45 Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita a Sobai, cant tri deg ac wyth. 46 Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth, 47 Ceros, S�a, Padon, 48 Lebana, Hagaba, Salmai, 49 Hanan, Gidel, Gahar, 50 Reaia, Resin, Necoda, 51 Gassam, Ussa, Pasea, 52 Besai, Meunim, Neffisesim, 53 Bacbuc, Hacuffa, Harhur, 54 Baslith, Mehida, Harsa, 55 Barcos, Sisera, Tama, 56 Neseia a Hatiffa. 57 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida, 58 Jala, Darcon, Gidel, 59 Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon. 60 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau. 61 Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: 62 teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau. 63 Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw. 64 Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth, 65 a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori �'r Wrim a'r Twmim. 66 Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg, 67 heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau, 68 saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod, 69 pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod. 70 Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol. 71 Rhoddodd rhai o'r pennau-teuluoedd i drysorfa'r gwaith ugain mil o ddracmonau aur a dwy fil dau gant o fin�u o arian. 72 A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o fin�u o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol. 73 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain.