1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith. 3 Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod; 4 ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat. 5 Pan roddir bloedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y dwyrain yn cychwyn ar eu taith, 6 a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn. 7 Fe roddir bloedd pryd bynnag y byddant yn cychwyn ar eu taith. 8 Pan yw'r cynulliad i ymgasglu ynghyd, fe genir y trwmped, ond ni roddir bloedd. Meibion Aaron, yr offeiriaid, sydd i ganu'r trwmpedau, a bydd hyn yn ddeddf i'w chadw gennych am byth, dros y cenedlaethau. 9 Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion. 10 Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw." 11 Ar yr ugeinfed dydd o'r ail fis o'r ail flwyddyn, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth, 12 a chychwynnodd pobl Israel yn gwmn�au ar eu taith o anialwch Sinai; yna arhosodd y cwmwl yn anialwch Paran. 13 Felly cychwynasant allan am y tro cyntaf ar orchymyn yr ARGLWYDD trwy Moses. 14 Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab. 15 Dros lu llwyth pobl Issachar yr oedd Nethanel fab Suar, 16 a thros lu llwyth pobl Sabulon yr oedd Eliab fab Helon. 17 Wedi tynnu'r tabernacl i lawr, fe gychwynnodd meibion Gerson a meibion Merari, gan mai hwy oedd yn cario'r tabernacl. 18 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll Reuben dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisur fab Sedeur. 19 Dros lu llwyth pobl Simeon yr oedd Selumiel fab Surisadai, 20 a thros lu llwyth pobl Gad yr oedd Eliasaff fab Reuel. 21 Yna cychwynnodd y Cohathiaid, gan gludo'r pethau cysegredig, a chodwyd y tabernacl cyn iddynt hwy gyrraedd. 22 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Effraim dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Elisama fab Ammihud. 23 Dros lu llwyth pobl Manasse yr oedd Gamaliel fab Pedasur, 24 a thros lu llwyth pobl Benjamin yr oedd Abidan fab Gideoni. 25 Yna cychwynnodd minteioedd gwersyll pobl Dan, y gwersyll olaf un, dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Ahieser fab Ammisadai. 26 Dros lu llwyth pobl Aser yr oedd Pagiel fab Ocran, 27 a thros lu llwyth pobl Nafftali yr oedd Ahira fab Enan. 28 Dyma drefn pobl Israel wrth iddynt gychwyn allan yn �l eu lluoedd. 29 Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, "Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel." 30 Ond atebodd ef, "Nid wyf am ddod; af yn hytrach i'm gwlad fy hun ac at fy mhobl fy hun." 31 Dywedodd Moses, "Paid �'n gadael, oherwydd fe wyddost ti lle cawn wersyllu yn yr anialwch, a gelli ein harwain. 32 Os doi gyda ni, fe gei ran yn y pethau da a wna'r ARGLWYDD drosom, a byddwn yn garedig wrthyt." 33 Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys. 34 Yr oedd cwmwl yr ARGLWYDD uwchben yn ystod y dydd wrth iddynt gychwyn o'r gwersyll. 35 Pan gychwynnai'r arch allan, byddai Moses yn dweud, "Cod, ARGLWYDD, gwasgar d'elynion, a boed i'r rhai sy'n dy gas�u ffoi o'th flaen." 36 A phan dd�i'r arch i orffwys, byddai'n dweud, "Dychwel, ARGLWYDD, at fyrddiynau Israel."