1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Anfon ddynion i ysb�o Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid." 3 Felly, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel. 4 Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur; 5 o lwyth Simeon: Saffat fab Hori; 6 o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne; 7 o lwyth Issachar: Igal fab Joseff; 8 o lwyth Effraim: Hosea fab Nun; 9 o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu; 10 o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi; 11 o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi; 12 o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali; 13 o lwyth Aser: Sethur fab Michael; 14 o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi; 15 o lwyth Gad: Geuel fab Maci. 16 Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysb�o'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun. 17 Wrth i Moses eu hanfon i ysb�o gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, "Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir, 18 ac edrychwch pa fath wlad yw hi: prun ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi; 19 prun ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; prun ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd; 20 prun ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir." Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi. 21 Felly, aethant i fyny i ysb�o'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath. 22 Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23 Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd � phomgranadau a ffigys. 24 Galwyd y lle yn ddyffryn Escol oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno. 25 Ar �l ysb�o'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn �26 i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir. 27 Dywedasant wrth Moses, "Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a m�l, a dyma beth o'i ffrwyth. 28 Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac. 29 Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y m�r, a gerllaw'r Iorddonen." 30 Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, "Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu." 31 Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, "Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni." 32 Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysb�o, a dweud, "Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysb�o yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth. 33 Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau."