Welsh

Numbers

26

1 Ar �l y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad, 2 "Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn �l eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel." 3 Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen, 4 am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft: 5 Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid; 6 o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid. 7 Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg. 8 Mab Palu: Eliab. 9 Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno � chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD; 10 agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn t�n, fel rhybudd. 11 Er hyn, ni fu farw meibion Cora. 12 Meibion Simeon yn �l eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid; 13 o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid. 14 Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant. 15 Meibion Gad yn �l eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid; 16 o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid; 17 o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid. 18 Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant. 19 Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan. 20 Meibion Jwda yn �l eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid. 21 Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid. 22 Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant. 23 Meibion Issachar yn �l eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid; 24 o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid. 25 Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant. 26 Meibion Sabulon yn �l eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid. 27 Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant. 28 Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn �l eu teuluoedd: 29 Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid. 30 Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid; 31 o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid; 32 o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid. 33 Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa. 34 Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant. 35 Dyma feibion Effraim yn �l eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid. 36 Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid. 37 Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn �l eu teuluoedd. 38 Meibion Benjamin yn �l eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid; 39 o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid. 40 Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid. 41 Dyma feibion Benjamin yn �l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant. 42 Dyma feibion Dan yn �l eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn �l eu teuluoedd. 43 Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant. 44 Meibion Aser yn �l eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid. 45 O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid. 46 Enw merch Aser oedd Sara. 47 Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant. 48 Meibion Nafftali yn �l eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid; 49 o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid. 50 Dyma dylwyth Nafftali yn �l eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant. 51 Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg. 52 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 53 "I'r rhain, yn �l nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth. 54 I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn �l y nifer sydd ynddo. 55 Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn �l enwau llwythau eu hynafiaid. 56 Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain." 57 Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn �l eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid. 58 Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram. 59 Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam. 60 I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar; 61 ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu t�n halogedig gerbron yr ARGLWYDD. 62 Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid. 63 Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen. 64 Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai, 65 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.