1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Yr wyt i ddial ar y Midianiaid ar ran pobl Israel; yna fe'th gesglir at dy bobl." 3 A dywedodd Moses wrth y bobl, "Arfogwch ddynion o'ch plith iddynt ryfela yn erbyn Midian, a dial arni ar ran yr ARGLWYDD. 4 Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel." 5 Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel. 6 Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd � Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd. 7 Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 8 Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor �'r cleddyf. 9 Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd. 10 Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd, 11 a chymerwyd y cyfan o'r ysbail a'r anrhaith, yn ddyn ac anifail. 12 Yna daethant �'r carcharorion, yr ysbail a'r anrhaith at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at gynulliad pobl Israel oedd yn gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen. 13 Aeth Moses, Eleasar yr offeiriad, a holl arweinwyr y cynulliad i'w cyfarfod y tu allan i'r gwersyll. 14 Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar �l brwydro yn y rhyfel, 15 a dywedodd wrthynt, "A ydych wedi arbed yr holl ferched? 16 Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglu375?n � Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD. 17 Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn, 18 ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn. 19 Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd � chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi. 20 Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren." 21 Dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr oedd wedi mynd i'r frwydr, "Dyma'r rheol yn �l y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses: 22 dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm, 23 sef popeth sy'n gallu gwrthsefyll t�n, sydd i'w dynnu trwy d�n er mwyn ei buro, a'i lanhau � du373?r puredigaeth; y mae popeth na all wrthsefyll t�n i'w dynnu trwy'r du373?r yn unig. 24 Golchwch eich dillad ar y seithfed dydd, a byddwch l�n; yna cewch ddod i mewn i'r gwersyll." 25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 26 "Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail, 27 a'i rannu'n ddau rhwng y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr a'r holl gynulliad. 28 Oddi wrth y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr, cymer yn dreth i'r ARGLWYDD un o bob pum cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, neu ddefaid. 29 Cymerwch hyn o'u hanner hwy, a'i roi i Eleasar yr offeiriad fel offrwm i'r ARGLWYDD. 30 Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD." 31 Gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 32 Dyma'r ysbail oedd yn weddill o'r hyn a gymerodd y rhyfelwyr: chwe chant saith deg pump o filoedd o ddefaid, 33 saith deg dwy o filoedd o eidionau, 34 chwe deg un o filoedd o asynnod, 35 a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol � dyn. 36 Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid, 37 ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD; 38 yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD; 39 yr oedd tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, a chwe deg ac un ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD; 40 yr oedd un fil ar bymtheg o bobl, a thri deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD. 41 Rhoddodd Moses y dreth, sef yr offrwm i'r ARGLWYDD, i Eleasar yr offeiriad, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 42 Yr oedd y rhan nad oedd yn eiddo i'r rhyfelwyr (sef yr hanner a rannodd Moses i'r Israeliaid, 43 yn eiddo i'r cynulliad), yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid, 44 tri deg chwech o filoedd o eidionau, 45 tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, 46 ac un fil ar bymtheg o bobl. 47 O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 48 Yna daeth y rhai oedd yn swyddogion dros filoedd y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, at Moses 49 a dweud wrtho, "Y mae dy weision wedi cyfrif y rhyfelwyr a roddaist dan ein hawdurdod, a chael nad ydym wedi colli'r un ohonynt. 50 Cyflwynodd pob un ohonom yr hyn a gafodd, addurniadau aur, cadwynau, breichledau, modrwyau, clustlysau, a thorchau, yn offrwm i'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud cymod drosom ein hunain gerbron yr ARGLWYDD." 51 Yna cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur a'r holl addurniadau cywrain oddi wrthynt. 52 Yr oedd yr holl aur a offrymwyd i'r ARGLWYDD gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd yn pwyso un deg chwech o filoedd saith gant a phum deg o siclau, 53 gan fod pob un o'r rhyfelwyr wedi cymryd rhywfaint o'r ysbail. 54 Cymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrth gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a daethant ag ef i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD.