1 Daeth pennau-teuluoedd tylwythau meibion Gilead fab Machir, fab Manasse, un o dylwythau meibion Joseff, ymlaen a siarad � Moses a'r arweinwyr, sef pennau-teuluoedd pobl Israel, 2 a dweud, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD iti roi'r wlad yn etifeddiaeth i bobl Israel trwy'r coelbren, a rhoi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i'w ferched. 3 Yn awr, os priodant hwy � dynion o lwythau eraill ymysg yr Israeliaid, yna bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli o lwyth ein hynafiaid, ac yn cael ei throsglwyddo at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt, a bydd ein hetifeddiaeth ni yn dlotach o'r herwydd. 4 Pan ddaw jwbili pobl Israel, fe drosglwyddir eu hetifeddiaeth hwy at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt; felly, bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein hynafiaid." 5 Gorchmynnodd Moses i bobl Israel yn �l gair yr ARGLWYDD, a dweud, "Y mae cais llwyth meibion Joseff yn un cyfiawn. 6 Dyma orchymyn yr ARGLWYDD ynglu375?n � merched Seloffehad: c�nt briodi � phwy bynnag a ddymunant, cyn belled � bod eu gwu375?r yn perthyn i dylwyth eu tad. 7 Nid yw etifeddiaeth pobl Israel i'w throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall; yn hytrach, glyned pob un o bobl Israel wrth etifeddiaeth llwyth ei hynafiaid. 8 Y mae pob merch sy'n meddu ar etifeddiaeth, ni waeth i ba un o lwythau Israel y perthyn, i briodi � dyn o dylwyth ei thad, fel y caiff pob un o bobl Israel ran yn etifeddiaeth ei hynafiaid. 9 Felly, ni fydd yr etifeddiaeth yn cael ei throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall, ond bydd pob un o lwythau pobl Israel yn glynu wrth ei etifeddiaeth ei hun." 10 Gwnaeth merched Seloffehad fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, 11 ac fe briododd Mala, Tirsa, Hogla, Milca a Noa, merched Seloffehad, � meibion brodyr eu tad. 12 Felly daethant yn wragedd i wu375?r o dylwyth meibion Manasse fab Joseff, ac arhosodd eu hetifeddiaeth gyda thylwyth eu tad. 13 Dyma'r deddfau a'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD trwy Moses i bobl Israel yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen.