1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Dywed wrth Aaron, 'Pan fyddwch yn gosod y lampau yn eu lle, bydd y saith ohonynt yn goleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren.'" 3 Gwnaeth Aaron hyn, a gosododd y lampau i oleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 4 Yr oedd y canhwyllbren wedi ei wneud o aur gyr, o'i draed at ei flodau. Gwnaeth y canhwyllbren yn �l y patrwm a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses. 5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 6 "Cymer y Lefiaid o blith pobl Israel, a glanha hwy. 7 Dyma a wnei iddynt i'w glanhau: tywallt arnynt ddu373?r puredigaeth, a gwna iddynt eillio pob rhan o'u corff, a golchi eu dillad a bod yn l�n. 8 Yna gwna iddynt gymryd bustach ifanc gyda bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, a chymer dithau fustach ifanc arall yn aberth dros bechod. 9 Tyrd �'r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasgla ynghyd holl gynulliad pobl Israel. 10 Wrth iti ddod �'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, bydd pobl Israel yn gosod eu dwylo arnynt, 11 a bydd Aaron yn cyflwyno'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan oddi wrth bobl Israel, er mwyn iddynt wasanaethu'r ARGLWYDD. 12 Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y bustych, a byddi dithau'n offrymu un bustach yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, i wneud cymod dros y Lefiaid. 13 Gwna i'r Lefiaid wasanaethu Aaron a'i feibion, a chyflwyna hwy yn offrwm cyhwfan i'r ARGLWYDD. 14 Fel hyn y byddi'n neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel i fod yn eiddo i mi. 15 "Wedyn, bydd y Lefiaid yn mynd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddi dithau'n eu glanhau a'u cyflwyno'n offrwm cyhwfan. 16 Cyflwynwyd hwy imi'n rhodd arbennig o blith pobl Israel, ac fe'u cymerais i mi fy hun yn gyfnewid am y cyntaf i ddod allan o'r groth, y rhai cyntafanedig o'r holl Israeliaid. 17 Y mae pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail, yn eiddo i mi; cysegrais hwy i mi fy hun ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, 18 a chymerais y Lefiaid yn gyfnewid am bob cyntafanedig o blith pobl Israel. 19 Rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron a'i feibion o blith pobl Israel, i wasanaethu'r Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac i wneud cymod drostynt, rhag i bla ddod ar bobl Israel wrth iddynt ddod yn agos at y cysegr." 20 Gwnaeth Moses, Aaron, a holl gynulliad pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglu375?n �'r Lefiaid. 21 Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau. 22 Wedyn, aeth y Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a gweini ar Aaron a'i feibion. Gwnaethpwyd i'r Lefiaid fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 24 "Dyma'r drefn ynglu375?n �'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod; 25 ond yn hanner cant oed byddant yn gorffen gweithio ac yn peidio �'u gwasanaeth. 26 C�nt gynorthwyo'u brodyr i ofalu am babell y cyfarfod, ond y mae cyfnod eu gwasanaeth ar ben. Dyma a wnei ynglu375?n � gorchwylion y Lefiaid."