Welsh

Philippians

1

1 Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd �'r arolygwyr a'r diaconiaid. 2 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. 3 Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, 4 a phob amser ym mhob un o'm gwedd�au dros bob un ohonoch, yr wyf yn gwedd�o gyda llawenydd. 5 Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr; 6 ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu. 7 Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal � phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau. 8 Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, � dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch. 9 Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, 10 er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didram-gwydd erbyn Dydd Crist, 11 yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw. 12 Yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl, 13 yn gymaint �'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, 14 a bod y mwyafrif o'r cyd-gredinwyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd, ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddi-ofn. 15 Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da. 16 O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma, 17 ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar. 18 Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, prun ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd, 19 oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth. 20 Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, prun bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth. 21 Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. 22 Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. 23 Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; 24 ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. 25 Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, 26 er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn �l atoch. 27 Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl, 28 heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw. 29 Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto, 30 gan ymdaflu i'r frwydr honno y gwelsoch fi ynddi, ac yr ydych yn awr yn clywed fy mod ynddi o hyd.