Welsh

Proverbs

28

1 Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid, ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew. 2 Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr, ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn. 3 Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion, fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch. 4 Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus, ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn. 5 Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan. 6 Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir, na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd. 7 Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu �'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni. 8 Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd. 9 Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith, bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra. 10 Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth; ond caiff y cywir etifeddiaeth dda. 11 Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun, ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo. 12 Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr; ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio. 13 Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau, ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd. 14 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad; ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr. 15 Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro, felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd. 16 Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster, ond y mae'r un sy'n cas�u llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau. 17 Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed yn ffoi i gyfeiriad y pwll; peidied neb �'i atal. 18 Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel, ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll. 19 Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi. 20 Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb. 21 Nid yw'n iawn dangos ffafr, ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara. 22 Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth; nid yw'n ystyried y daw arno angen. 23 Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n gwenieithio. 24 Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam, ac yn dweud nad yw'n drosedd, yn gymar i'r un sy'n dinistrio. 25 Y mae'r trachwantus yn creu cynnen, ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder. 26 Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb. 27 Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid. 28 Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio, ond ar �l eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.