1 1 Gweddi'r gostyngedig, pan yw'n wan ac yn bwrw ei gu373?yn o flaen yr ARGLWYDD.0 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a doed fy nghri atat. 2 Paid � chuddio dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder; tro dy glust ataf, brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf. 3 Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg, a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn. 4 Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt; yr wyf yn darfod o beidio � bwyta. 5 Oherwydd su373?n fy ochneidio y mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd. 6 Yr wyf fel pelican mewn anialwch, ac fel tylluan mewn adfeilion. 7 Yr wyf yn methu cysgu, ac fel aderyn unig ar do. 8 Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser, a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith. 9 Yr wyf yn bwyta lludw fel bara, ac yn cymysgu fy niod � dagrau, 10 o achos dy lid a'th ddigofaint, oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu. 11 Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd; yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn. 12 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, a phery dy enw dros y cenedlaethau. 13 Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion; y mae'n adeg i dosturio wrthi, oherwydd fe ddaeth yr amser. 14 Y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch. 15 Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion, bydd yn ymddangos yn ei ogoniant; 17 bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig, ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad. 18 Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod, fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD: 19 ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd, i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear, 20 i wrando ocheneidiau carcharorion a rhyddhau'r rhai oedd i farw, 21 fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion, a'i foliant yn Jerwsalem, 22 pan fo pobloedd a theyrnasoedd yn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD. 23 Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith, ac wedi byrhau fy nyddiau. 24 Dywedaf, "O fy Nuw, paid �'m cymryd yng nghanol fy nyddiau, oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau. 25 "Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd. 26 Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros; y maent i gyd yn treulio fel dilledyn. Yr wyt yn eu newid fel gwisg, ac y maent yn diflannu; 27 ond yr wyt ti yr un, a'th flynyddoedd heb ddiwedd. 28 Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel, a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen."