Welsh

Psalms

105

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 2 Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau. 3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD. 4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. 5 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd, 6 chwi ddisgynyddion Abraham, ei was, disgynyddion Jacob, ei etholedig. 7 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear. 8 Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau, 9 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac � 10 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, 11 a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth." 12 Pan oeddent yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad, 13 yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill, 14 ni adawodd i neb eu darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos, 15 a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi." 16 Pan alwodd am newyn dros y wlad, a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara, 17 yr oedd wedi anfon gu373?r o'u blaenau, Joseff, a werthwyd yn gaethwas. 18 Doluriwyd ei draed yn y cyffion, a rhoesant haearn am ei wddf, 19 nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir, ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir. 20 Anfonodd y brenin i'w ryddhau � brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd; 21 gwnaeth ef yn feistr ar ei du375?, ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo, 22 i hyfforddi ei dywysogion yn �l ei ddymuniad, ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid. 23 Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft, a Jacob i grwydro yn nhir Ham. 24 A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn, ac aethant yn gryfach na'u gelynion. 25 Trodd yntau eu calon i gas�u ei bobl, ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision. 26 Yna anfonodd ei was Moses, ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis, 27 a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion a gwyrthiau yn nhir Ham. 28 Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll, eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau. 29 Trodd eu dyfroedd yn waed, a lladdodd eu pysgod. 30 Llanwyd eu tir � llyffaint, hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd. 31 Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed a llau trwy'r holl wlad. 32 Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw, a mellt yn fflachio trwy eu gwlad. 33 Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd, a malurio'r coed trwy'r wlad. 34 Pan lefarodd ef, daeth locustiaid a lindys heb rifedi, 35 nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad, a difa holl gynnyrch y ddaear. 36 A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad, blaenffrwyth eu holl nerth. 37 Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau. 38 Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan, oherwydd bod arnynt eu hofn hwy. 39 Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio, a th�n i oleuo iddynt yn y nos. 40 Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt, a digonodd hwy � bara'r nefoedd. 41 Holltodd graig nes bod du373?r yn pistyllio, ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch. 42 Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd i Abraham ei was. 43 Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd, ei rai etholedig mewn gorfoledd. 44 Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd, a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd, 45 er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau, ac ufuddhau i'w gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.