Welsh

Psalms

124

1 1 C�n Esgyniad. I Ddafydd.0 Oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu � dyweded Israel hynny � 2 oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu pan gododd rhai yn ein herbyn, 3 byddent wedi'n llyncu'n fyw wrth i'w llid losgi tuag atom; 4 byddai'r dyfroedd wedi'n cario ymaith a'r llif wedi mynd dros ein pennau; 5 ie, drosom yr �i dygyfor y tonnau. 6 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio �'n rhoi yn ysglyfaeth i'w dannedd. 7 Yr ydym wedi dianc fel aderyn o fagl yr heliwr; torrodd y fagl, yr ydym ninnau'n rhydd. 8 Ein cymorth sydd yn enw'r ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear.