1 1 C�n Esgyniad.0 Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion, yr oeddem fel rhai wedi cael iach�d; 2 yr oedd ein genau yn llawn chwerthin a'n tafodau yn bloeddio canu. Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd, "Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy." 3 Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni, a bu i ninnau lawenhau. 4 O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiant fel ffrydiau yn y Negef; 5 bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd. 6 Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau.