Welsh

Psalms

132

1 1 C�n Esgyniad.0 O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd yn ei holl dreialon, 2 fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD ac addunedu i Un Cadarn Jacob, 3 "Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi, nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno; 4 ni roddaf gwsg i'm llygaid na hun i'm hamrannau, 5 nes imi gael lle i'r ARGLWYDD a thrigfan i Un Cadarn Jacob." 6 Wele, clywsom amdani yn Effrata, a chawsom hi ym meysydd y coed. 7 "Awn i mewn i'w drigfan a phlygwn wrth ei droedfainc. 8 Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. 9 Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo � chyfiawnder, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu." 10 Er mwyn Dafydd dy was, paid � throi oddi wrth wyneb dy eneiniog. 11 Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd adduned sicr na thry oddi wrthi: "O ffrwyth dy gorff y gosodaf un ar dy orsedd. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod, a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt, bydd eu meibion hwythau hyd byth yn eistedd ar dy orsedd." 13 Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion, a'i chwennych yn drigfan iddo: 14 "Dyma fy ngorffwysfa am byth; yma y trigaf am imi ei dewis. 15 Bendithiaf hi � digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion � bara. 16 Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth, a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu. 17 Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd; darperais lamp i'm heneiniog. 18 Gwisgaf ei elynion � chywilydd, ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair."