1 1 I Ddafydd.0 Clodforaf di �'m holl galon, canaf fawl i ti yng ngu373?ydd duwiau. 2 Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth. 3 Pan elwais arnat, atebaist fi, a chynyddaist fy nerth ynof. 4 Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD, am iddynt glywed geiriau dy enau; 5 bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD, oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD. 6 Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel, ac fe ddarostwng y balch o bell. 7 Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi �'th ddeheulaw. 8 Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid � gadael gwaith dy ddwylo.