Welsh

Psalms

145

1 1 Emyn Mawl. I Ddafydd.0 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd. 2 Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd. 3 Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl, ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy. 4 Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall, a mynegi dy weithredoedd nerthol. 5 Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau. 6 Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd. 7 Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder. 8 Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb. 9 Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith. 10 Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD, a'th saint yn dy fendithio. 11 Dywedant am ogoniant dy deyrnas, a s�n am dy nerth, 12 er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas. 13 Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd. 14 Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio, a chodi pawb sydd wedi eu darostwng. 15 Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti, ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd; 16 y mae dy law yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn �l d'ewyllys. 17 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd. 18 Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd. 19 Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy. 20 Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu, ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus. 21 Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.