Welsh

Psalms

38

1 1 Salm. I Ddafydd, er coffadwriaeth.0 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid, ac na chosba fi yn dy ddig. 2 Suddodd dy saethau ynof, y mae dy law yn drwm arnaf. 3 Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd, nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod. 4 Aeth fy nghamweddau dros fy mhen, y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal. 5 Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawni oherwydd fy ffolineb. 6 Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr, ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd. 7 Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn, ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 8 Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr, ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon. 9 O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti, ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt. 10 Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu, a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd. 11 Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla, ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw. 12 Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau, a'r rhai sydd am fy nrygu yn s�n am ddinistr ac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd. 13 Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed, ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau. 14 B�m fel un heb fod yn clywed, a heb ddadl o'i enau. 15 Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais; ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw. 16 Oherwydd dywedais, "Na fydded llawenydd o'm plegid i'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed." 17 Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio, ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser. 18 Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd, ac yn pryderu am fy mhechod. 19 Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos, a llawer yw'r rhai sy'n fy nghas�u ar gam, 20 yn talu imi ddrwg am dda ac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni. 21 Paid �'m gadael, O ARGLWYDD; paid � mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw. 22 Brysia i'm cynorthwyo, O Arglwydd, fy iachawdwriaeth.