1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.0 B�m yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD, ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri. 2 Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog, allan o'r mwd a'r baw; gosododd fy nhraed ar graig, a gwneud fy nghamau'n ddiogel. 3 Rhoddodd yn fy ngenau g�n newydd, c�n o foliant i'n Duw; bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD. 4 Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD, ac nad yw'n troi at y beilchion, nac at y rhai sy'n dilyn twyll. 5 Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo. 6 Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm � rhoddaist imi glustiau agored � ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod. 7 Felly dywedais, "Dyma fi'n dod; y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf 8 fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw, a bod dy gyfraith yn fy nghalon." 9 B�m yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr; nid wyf wedi atal fy ngwefusau, fel y gwyddost, O ARGLWYDD. 10 Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon, ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth; ni chelais dy gariad a'th wirionedd rhag y gynulleidfa fawr. 11 Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal dy dosturi oddi wrthyf; bydded dy gariad a'th wirionedd yn fy nghadw bob amser. 12 Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo. 13 Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD; O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo. 14 Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd, ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd; bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi gael eu troi yn eu holau mewn dryswch. 15 Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, "Aha! Aha!" arnaf gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd. 16 Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di lawenhau a gorfoleddu ynot; bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth ddweud yn wastad, "Mawr yw'r ARGLWYDD." 17 Un tlawd ac anghenus wyf fi, ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf. Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd; fy Nuw, paid ag oedi!