1 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora, ar Alamoth. C�n.0 Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. 2 Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y m�r, 3 er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela. 4 Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw, preswylfa sanctaidd y Goruchaf. 5 Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi; cynorthwya Duw hi ar doriad dydd. 6 Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian; pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear. 7 Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela. 8 Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD, fel y dygodd ddifrod ar y ddaear; 9 gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear, dryllia'r bwa, tyr y waywffon, a llosgi'r darian � th�n. 10 Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear. 11 Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela.