1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Golomen y Derw Pell. Michtam. I Ddafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf, ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd; 2 y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd, a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn. 3 Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti. 4 Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? 5 Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau, ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu. 6 Ymgasglant at ei gilydd a llechu, ac y maent yn gwylio fy nghamre. 7 Fel y disgwyliant am fy mywyd, t�l iddynt am eu trosedd; yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd. 8 Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau � onid ydynt yn dy lyfr? 9 Yna troir fy ngelynion yn eu h�l yn y dydd y galwaf arnat. Hyn a wn: fod Duw o'm tu. 10 Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air, 11 yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi? 12 Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw; fe'u talaf i ti ag offrymau diolch. 13 Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau, a'm camau, yn wir, rhag llithro, er mwyn imi rodio gerbron Duw yng ngoleuni'r bywyd.