1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam.0 Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn? A ydych yn barnu pobl yn deg? 2 Na! Yr ydych �'ch calonnau'n dyfeisio drygioni, ac �'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear. 3 Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth, a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru. 4 Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff, fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau, 5 a heb wrando ar sain y swynwr sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd. 6 O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau, diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD. 7 Bydded iddynt ddiflannu fel du373?r a mynd ymaith, a chrino fel gwellt a sethrir; 8 byddant fel erthyl sy'n diflannu, ac fel marw-anedig na w�l olau dydd. 9 Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio; yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn. 10 Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd, ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus. 11 A dywed pobl, "Yn ddi-os y mae gwobr i'r cyfiawn; oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear."