Welsh

Psalms

80

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Lil�au. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.0 Gwrando, O fugail Israel, sy'n arwain Joseff fel diadell. 2 Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid, disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse. Gwna i'th nerth gyffroi, a thyrd i'n gwaredu. 3 Adfer ni, O Dduw; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. 4 O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, am ba hyd y byddi'n ddig wrth wedd�au dy bobl? 5 Yr wyt wedi eu bwydo � bara dagrau, a'u diodi � mesur llawn o ddagrau. 6 Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion, ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio. 7 O Dduw'r Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni. 8 Daethost � gwinwydden o'r Aifft; gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu; 9 cliriaist y tir iddi; magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir. 10 Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd, a'i changau fel y cedrwydd cryfion; 11 estynnodd ei brigau at y m�r, a'i blagur at yr afon. 12 Pam felly y bylchaist ei chloddiau, fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth? 13 Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori. 14 O Dduw'r Lluoedd, tro eto, edrych i lawr o'r nefoedd a gw�l, gofala am y winwydden hon, 15 y planhigyn a blennaist �'th ddeheulaw, y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu. 16 Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi � th�n ac yn ei thorri i lawr gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd. 17 Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw, ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu. 18 Ni thrown oddi wrthyt mwyach; adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw. 19 ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.