1 1 C�n. Salm. I feibion Cora. I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath Leannoth. Masc�l. I Heman yr Esrahead.0 O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth, liw dydd galwaf arnat, gyda'r nos deuaf atat. 2 Doed fy ngweddi hyd atat, tro dy glust at fy llef. 3 Yr wyf yn llawn helbulon, ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol. 4 Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac euthum fel un heb nerth, 5 fel un wedi ei adael gyda'r meirw, fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd � rhai nad wyt yn eu cofio bellach am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael. 6 Gosodaist fi yn y pwll isod, yn y mannau tywyll a'r dyfnderau. 7 Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf, a llethaist fi �'th holl donnau. Sela. 8 Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf, a'm gwneud yn ffiaidd iddynt. Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc; 9 y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd. Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD, ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat. 10 A wnei di ryfeddodau i'r meirw? A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu? Sela. 11 A fynegir dy gariad yn y bedd, a'th wirionedd yn nhir Abadon? 12 A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch, a'th fuddugoliaethau yn nhir angof? 13 Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD, ac yn y bore daw fy ngweddi atat. 14 O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod, ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf? 15 Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid; dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch. 16 Aeth dy ddigofaint drosof, ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha. 17 Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd, ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf. 18 Gwnaethost i g�r a chyfaill bellhau oddi wrthyf, a thywyllwch yw fy nghydnabod.