1 Yna gwelais angel nerthol arall yn disgyn o'r nef wedi ei wisgo � chwmwl, ac enfys ar ei ben. Yr oedd ei wyneb fel yr haul, a'i goesau fel colofnau o d�n. 2 Yr oedd yn dal yn ei law sgr�l fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y m�r a'r un chwith ar y tir. 3 Yna gwaeddodd � llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau. 4 Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, "Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan s�l; paid �'u hysgrifennu." 5 A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y m�r ac ar y tir yn codi ei law dde i'r nef 6 ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r m�r a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: "Ni bydd oedi mwy; 7 ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol �'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi." 8 Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, "Dos a chymer y sgr�l sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y m�r ac ar y tir." 9 Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgr�l fechan imi, ac atebodd fi: "Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel m�l yn dy enau." 10 Cymerais y sgr�l fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel m�l yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw. 11 A dywedwyd wrthyf, "Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer."