Welsh

Revelation

12

1 Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo �'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen. 2 Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor. 3 Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem. 4 Ysgubodd ei chynffon draean o s�r y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni. 5 Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd � gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef. 6 Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau. 7 Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau, 8 ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef. 9 Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi. 10 Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: "Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos. 11 Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, yn ddibris o'u bywyd hyd angau. 12 Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd, a chwi sy'n preswylio ynddynt! Gwae chwi'r ddaear a'r m�r, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!" 13 Pan welodd y ddraig ei bod wedi ei bwrw i'r ddaear, aeth i erlid y wraig a esgorodd ar y plentyn gwryw. 14 Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff. 15 Poerodd y sarff o'i genau afon o ddu373?r ar �l y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif. 16 Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau. 17 Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.