Welsh

Revelation

8

1 Pan agorodd yr Oen y seithfed s�l, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr. 2 Yna gwelais y saith angel sy'n sefyll gerbron Duw; a rhoddwyd iddynt saith utgorn. 3 Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor � thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gwedd�au'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd. 4 O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gwedd�au'r saint. 5 Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi � th�n o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu su373?n taranau a fflachiadau mellt a daeargryn. 6 Parat�dd y saith angel, yr oedd y saith utgorn ganddynt, i'w seinio. 7 Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a th�n, yn gymysg � gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las. 8 Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r m�r rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n d�n. Trodd traean o'r m�r yn waed, 9 a bu farw traean o greaduriaid byw y m�r, a dinistriwyd traean o'r llongau. 10 Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd. 11 Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd. 12 Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r s�r, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos. 13 Edrychais, a chlywais eryr yn hedfan yng nghanol y nef ac yn llefain � llais uchel, "Gwae, gwae, gwae drigolion y ddaear o achos seiniau'r utgyrn eraill y mae'r tri angel eto i'w seinio!"