1 Fy nghyfeillion, ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros fy mhobl, yw iddynt gael eu dwyn i iachawdwriaeth. 2 Gallaf dystio o'u plaid fod ganddynt s�l dros Dduw. Ond s�l heb ddeall ydyw. 3 Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw. 4 Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw. 5 Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: "Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt." 6 Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: "Paid � dweud yn dy galon, 'Pwy a esgyn i'r nef?'" � hynny yw, i ddwyn Crist i lawr � 7 "neu, 'Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?'" � hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw. 8 Ond beth mae'n ei ddweud? "Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon." A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: 9 "Os cyffesi Iesu yn Arglwydd �'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub." 10 Oherwydd credu �'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu �'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth. 11 Y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono." 12 Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno. 13 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, "bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw." 14 Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? 15 Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da." 16 Eto nid pawb a ufuddhaodd i'r newydd da. Oherwydd y mae Eseia'n dweud, "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym?" 17 Felly, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist. 18 Ond y mae'n rhaid gofyn, "A oedd dichon iddynt fethu clywed?" Nac oedd, yn wir, oherwydd: "Aeth eu lleferydd allan i'r holl ddaear, a'u geiriau hyd eithafoedd byd." 19 Ond i ofyn peth arall, "A oedd dichon i Israel fethu deall?" Ceir yr ateb yn gyntaf gan Moses: "Fe'ch gwnaf chwi'n eiddigeddus wrth genedl nad yw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig wrth genedl ddiddeall." 20 Ac yna, y mae Eseia'n beiddio dweud: "Cafwyd fi gan rai nad oeddent yn fy ngheisio; gwelwyd fi gan rai nad oeddent yn holi amdanaf." 21 Ond am Israel y mae'n dweud: "Ar hyd y dydd b�m yn estyn fy nwylo at bobl anufudd a gwrthnysig."