Welsh

Romans

12

1 Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. 2 A pheidiwch � chydymffurfio �'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. 3 Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio �'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson �'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un. 4 Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, 5 felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd. 6 A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn �l y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson � hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur �'th ffydd. 7 Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori. 8 Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd. 9 Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni. 10 Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch. 11 Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. 12 Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i wedd�o. 13 Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch. 14 Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth. 15 Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo. 16 Byddwch yn gyt�n ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawr-eddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch �'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth. 17 Peidiwch � thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb. 18 Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch � phawb. 19 Peidiwch � mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: "'Myfi piau dial, myfi a dalaf yn �l,' medd yr Arglwydd." 20 Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau. 21 Paid � goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni � daioni.