1 Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae. 2 Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol. 3 Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu, 4 deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd. 5 Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tu375?. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist. 6 Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan. 7 Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl � mi, ac a fu'n gydgarcharorion � mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i. 8 Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd. 9 Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus. 10 Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o du375? Aristobwlus. 11 Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl � mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o du375? Narcisus. 12 Cyfarchwch Tryffena a Tryffosa, chwiorydd sy'n llafurio yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Cyfarchwch Persis, chwaer annwyl sydd wedi llafurio cymaint yn ei wasanaeth. 13 Cyfarchwch Rwffus, sy'n Gristion dethol, a'i fam, sy'n fam i minnau. 14 Cyfarchwch Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermas, a'r cyfeillion sydd gyda hwy. 15 Cyfarchwch Philologus a Jwlia, Nereus a'i chwaer, Olympas a'r holl saint sydd gyda hwy. 16 Cyfarchwch eich gilydd � chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch. 17 Yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, gwyliwch y rhai sydd yn peri rhwyg ac yn codi rhwystrau, yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi. Gochelwch rhagddynt, 18 oherwydd nid gwas-anaethu Crist ein Harglwydd y mae rhai fel hyn, ond eu chwantau eu hunain; pobl ydynt sydd, trwy eiriau teg a gweniaith, yn hudo meddyliau'r diniwed ar gyfeiliorn. 19 Ond y mae eich ufudd-dod chwi yn hysbys i bawb. Dyna pam yr wyf yn llawenhau o'ch plegid; ac eto yr wyf am i chwi barhau i fod yn ddoeth mewn daioni ond yn ddiniwed mewn drygioni. 20 Ac felly, buan y bydd Duw yr heddwch yn malu Satan dan eich traed. Gras ein Harglwydd Iesu fyddo gyda chwi! 21 Y mae Timotheus, fy nghydweithiwr, yn eich cyfarch, a hefyd Lwcius a Jason a Sosipater, gwu375?r o'r un genedl � mi. 22 (Ac yr wyf finnau, Tertius, sydd wedi ysgrifennu'r llythyr hwn, yn eich cyfarch yn yr Arglwydd.) 23 Y mae Gaius, a roes ei gartref yn llety i mi ac i'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a hefyd y brawd Cwartus. 24 [{cf15i Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll! Amen.}] 25 Iddo ef sy'n abl i'ch gwneud yn gadarn, yn �l yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, a'r genadwri am Iesu Grist, yn �l y datguddiad o'r dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd maith, 26 ond sydd yn awr wedi ei amlygu trwy'r ysgrythurau proffwydol, ac wedi ei hysbysu ar orchymyn y Duw tragwyddol i'r holl Genhedloedd, i'w hennill i ffydd ac ufudd-dod; 27 i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist � iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.