Welsh

Romans

4

1 Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef? 2 Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim. 3 Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? "Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder." 4 Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y t�l, ond fel peth sy'n ddyledus. 5 Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder. 6 Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith: 7 "Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau, ac y cuddiwyd eu pechodau; 8 gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn." 9 Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, "cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder". 10 Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar �l enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei �l. 11 Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn s�l o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt. 12 Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno. 13 Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd. 14 Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn �l y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid. 15 Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith. 16 Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn �l gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn �l y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn �l ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd; 17 fel y mae'n ysgrifenedig: "Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer." Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod. 18 A'r credu hwn, � gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn �l yr hyn a lefarwyd: "Felly y bydd dy ddisgynyddion." 19 Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara. 20 Nid amheuodd ddim ynglu375?n ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw, 21 yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo. 22 Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder. 23 Ond ysgrifennwyd y geiriau, "fe'i cyfrifwyd iddo", nid ar gyfer Abraham yn unig, 24 ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd � ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw. 25 Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.